
Arddangosfa gyfredol:
Wynebau Gwrthryfela
Mae yna hanes hir a balch o weithredwyr sydd wedi gweithio dros fyd gwell trwy wrthryfela yn erbyn y status quo pan oedd angen newid. Mae’r swffragetiaid a phrotestwyr hawliau sifil yn aml yn dod i’r meddwl, ond mae llawer o rai eraill hefyd wedi newid ein byd i'r gwell dros y canrifoedd.
Mae'r arddangosfa yn rhan o brosiect actifiaeth celf ryngwladol. Ar hyn o bryd mae pum artist yn cymryd rhan ac mae dau wedi cyhoeddi gwaith hyd yn hyn. Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys gwaith gan y ddau, sef Bitterjug a Solutionairy. Bitterjug yw'r enw a ddefnyddir gan Mark Skipper, a gychwynnodd y prosiect.
ARDDANGOSFEYDD DYFODOL
YMGEISIO I ARDDANGOS GYDA NI
Rydym yn croesawu ceisiadau i arddangos gyda ni.
Anfonwch e-bost at: stiwdio@cwmarian.org.uk am ffurflen gais.
Rydym yn lleoliad cymunedol ac er nad ydym yn codi ffi i chi arddangos gyda ni gofynnwn i chi roi rhywbeth yn ôl i'n cymuned leol. Byddai hyn fel arfer ar ffurf sgwrs am eich gwaith, gweithdy neu rodd o ddarn o waith y gallwn ei werthu i godi arian.